Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

13 Ionawr 2025

3.1
Gohebiaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd
3.2
Gohebiaeth gan Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch hyrwyddo Hawliau Dynol yng Nghymru.
3.3
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip at y Cadeirydd ynghylch Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
3.4
Gohebiaeth gan Nwy Prydain at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch rhagor o wybodaeth o ran yr ymchwiliad dilynol i Dlodi Tanwydd yng Nghymru.
3.5
Gohebiaeth gan Gofal Canser Tenovus at y Cadeirydd ynghylch y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr.
3.6
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl ifanc.
3.7
Gohebiaeth at y Cadeirydd gan y Llywydd ynghylch penderfyniad Fforwm y Cadeiryddion ar gyrff rhyngseneddol
3.8
Gohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
3.9
Gohebiaeth at y Cadeirydd gan Gyngor Sir Caerdydd ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd.
5
Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2025-26: trafod y dystiolaeth

Cyfarfodydd Pwyllgor Diweddaraf