Gallwch greu clip o fideos ar y safle mewn un o dair ffordd:
Clipio o’r Agenda: gallwch greu clip o eitem o’r Agenda o Gyfarfodydd Llawn neu gyfarfodydd Pwyllgor o’r archif. Dewiswch yr eitem o’r ddewislen.
Nodi’r amser cychwyn: gallwch nodi union amser cychwyn a gorffen y clip â llaw ar fideos byw ac archif. Nodwch yr amser ar ffurf aa:mm:ee.
Gosod o’r chwaraeydd: gallwch sgrolio neu ‘sgwrio’ i bwynt mewn fideo byw neu archif a phwyso’r botwm ‘Cychwyn’ i ddechrau’r clip. I osod pwynt terfyn ar y clip, pwyswch y botwm ‘Gorffen’.
Pan ydych wedi dewis amser dilys gan ddefnyddio unrhyw un o’r opsiynau hyn, bydd y botwm ‘Rhagwylio’r clip’ yn ymddangos.
Pwyswch y botwm yma i wylio’r clip yr ydych wedi ei greu. Nodwch y bydd y chwaraeydd i ragwylio’r fideo yn agor mewn ffenestr newydd.
Rhannu URL (cyfeiriad gwe) eich clip
Os byddwch yn dewis botwm cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook neu Twitter, cewch eich hatgyfeirio at y rhwydwaith cymdeithasol hwnnw a gofynnir i chi fewngofnodi (os nad ydych eisoes wedi gwneud).
Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, bydd y linc yn cael ei roi yn y blwch postio neu trydar.
Dewis arall yw rhannu’r linc at y fideo dros e-bost. Er mwyn gwneud hyn, cliciwch ar yr eicon amlen a fydd yn mynd â chi at eich cleient e-bost diofyn neu sgrin mewngofnodi e-bost. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, byddwch yn gweld y linc a’r testun cysylltiedig eisoes yng nghorff yr e-bost. Bydd angen i chi nodi cyfeiriad e-bost y derbynnydd yn y blwch ‘To:’
Mewnosod eich clip ar wefannau eraill
I osod fideo ar wefan arall, dewiswch faint y ffrâm (unai 560x315, 640x360, 853x480 neu 1280x720) a chliciwch ar y blwch llwyd oddi tano. Bydd y côd yn cael ei gopïo yn awtomatig. Gosodir y cod hwn mewn strwythur iframe at ddibenion cydweddoldeb
Rhannu neu mewnosod y cyfarfod / fideo cyfan
Os na fyddwch yn dewis amser neu eitem o’r agenda yn yr adran Creu clip, bydd linc i’r fideo cyfan yn cael ei rhannu, neu bydd yr holl fideo yn cael ei fewnosod.
I lawrlwytho clip, dilynwch y camau hyn:
Nodwch efallai y gofynnir i chi gwblhau gwiriad reCAPTCHA, ac ar ôl gwneud hyn bydd neges yn ymddangos ar y sgrin.
E-bost â linc i lawrlwytho eich clip
Bydd linc i lawrlwytho eich clip yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a gafodd ei nodi. Caiff ei anfon gan clip@senedd.tv. Peidiwch ag ateb yr e-bost yma os gwelwch yn dda.
Nodwch po fwyaf yw maint y clip, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i’w brosesu a gallai fod ychydig o oedi cyn i chi dderbyn eich e-bost. Os na fyddwch yn derbyn e-bost o fewn awr o gyflwyno eich cais, rydym yn argymell eich bod yn edrych yn eich ffolder sbam / sbwriel.
Mae clipiau i’w lawrlwytho ar gael ar y safle am 24 awr ar ôl i'r linc gael ei hanfon atoch, ac yna cânt eu dileu.
Terfynau lawrlwytho
Rydym yn cyfyngu ar nifer y ceisiadau lawrlwytho i 10 y cyfeiriad e-bost dros 24 awr. Mae hyn yn ein helpu i warchod a monitro'r defnydd o'r gwasanaeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â ni: cysylltu@senedd.cymru