Bellach bydd defnyddwyr yn gallu gosod clipiau o'r Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor ar eu platfformau eu hunain a gwylio'r deunydd ar ddyfeisiau symudol, yn ogystal â defnyddio'r nodweddion presennol.
Yn ogystal, bydd y Senedd TV newydd yn cynnig:
• dull o ffrydio sy'n ymaddasu er mwyn gwella safon y llun;
• y gallu i weithio ar ddyfeisiau symudol;
• y gallu i ddewis clip penodol o fusnes y Cynulliad a'i osod ar wefan trydydd parti;
• teclyn chwilio gwell sy'n ei gwneud yn haws i ddod o hyd i ddeunydd archif;
• nodwedd sy'n galluogi defnyddwyr i fynd yn ôl wrth wylio fideo byw a mynd yn syth i'r pwynt perthnasol mewn fideo archif yn rhwydd; ac
• archifo fideo o fewn dwy eiliad gan olygu y gellir gwylio cynnwys hanesyddol bron ar unwaith.